28/09/2026
Cau'r Pwll Dros Dro / Temporary Pool Closure
THIS IS A BILINGUAL POST, SCROLL FOR ENGLISH
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra, ond bydd y pwll nofio yn Bro Ddyfi ar gau dros dro o ddydd Llun 5 Hydref a bydd yn ailagor ddydd Sul 11 Hydref tra bydd gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn cael eu gwneud.
Bydd yr holl gyfleusterau eraill yn y ganolfan yn parhau ar agor ac yn gweithredu fel arfer. Os hoffech chi barhau i nofio yn ystod y cyfnod hwn, gall aelodau ddefnyddio pyllau yn unrhyw ganolfan Freedom Leisure ym Mhowys heb unrhyw gost ychwanegol.
Er mwyn eich helpu i aros yn egnïol, mae croeso hefyd i aelodau 'Nofio yn Unig' ddefnyddio'r gampfa a mynychu dosbarthiadau ffitrwydd yn Bro Ddyfi yn ystod y cyfnod cau; pam na wnewch chi fanteisio ar y cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd?
Sylwch y bydd yr holl wersi nofio sydd wedi'u trefnu ar gyfer 5-10 Hydref yn cael eu canslo. Mae dosbarthiadau amgen yn cael eu darparu a bydd y ganolfan yn trafod hyn gyda chi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag aelod o'n tîm, a fydd yn hapus i helpu.
Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth tra bydd y gwelliannau pwysig hyn yn cael eu cwblhau. Os bydd y gwaith yn cael ei orffen yn gynharach na'r disgwyl, byddwn yn rhannu diweddariadau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at groesawu nofwyr yn ôl cyn gynted â phosibl.
----------------------------------
We’d like to apologise for any inconvenience, but the swimming pool at Bro Ddyfi will be temporarily closed from Monday 5 October and will reopen on Sunday 11 October while energy-efficiency upgrades are carried out.
All other facilities at the centre will remain open and operating as normal. If you would still like to swim during this time, members can use pools at any Freedom Leisure Centre in Powys at no additional cost.
To help you stay active, Swim Only members are also welcome to use the gym and attend fitness classes at Bro Ddyfi during the closure, why not take the opportunity to try something new?
Please note that all swimming lessons scheduled for 5-10 October will be cancelled. Alternative classes are being provided and the centre will discuss this with you
If you have any questions, please speak to a member of our team, who will be happy to help.
Thank you for your patience and understanding while these important improvements are completed. Should the work be finished ahead of schedule, we will share updates on our social media channels. We look forward to welcoming swimmers back as soon as possible.