Mercher, 9 Medi
Pont-y-pant a Llyn Elsi
10.30
Gorsaf Drenau, Betws-y-Coed – SH 795 566. Dal trên 10.53 i Bont-y-Pant; dewch â'ch cerdyn teithio.
O Bont-y-pant, dilyn Sarn Helen am ychydig cyn troi i'r dde i Rhiw Goch. Dringo'n hamddenol heibio Cwm Celyn a Chwm Draenog at Llyn Elsi. Cinio. Cerdded yn ôl i Fetws-y-Coed.
Tua 9 km / 5 milltir ac esgyniad o 330 m / 1,082 troedfedd.
Gradd 2
Roger Hayward a Margiad Davies 07766 160675 [email protected]
Clwb Mynydda Cymru
Ydych chi'n mynydda?Ydych chi'n crwydro? Ydych chi'n dringo? Ydych chi'n aelod o GLWB MYNYDDA CYMRU?
Sadwrn 5 neu Sul 6 Medi
Pedol Stiniog
06.15 06.30
Canol Tref Ffestiniog, ger y pistyll, o flaen Gwesty’r Queens. Maes Parcio Cyngor Gwynedd, canol y dref, neu digon o lefydd eraill cyfagos.
Gan gychwyn o ganol y dref, cerdded at Ddolrhedyn, yna i fyny ffordd Stwlan a dringo i gopa Moelwyn Bach a thros weddill y Moelwynion cyn disgyn lawr i chwarel Rhosydd. Anelu am Lyn yr Adar a thros gopaon Ysgafell Wen, Moel Druman ac Allt Fawr ac yna disgyn i Fwlch y Gorddinan. Fyny am gopaon Moel Farlwyd a Phenamnen ac ymlaen dros Foel Fras a chroesi dros Chwarel Cwt y Bugail at gopa‘r Graig Ddu, a’r copa olaf, sef Manod Mawr. I lawr heibio chwarel Llyn Dŵr Oer (gallwn ychwanegu copa Manod Bach pe dymunir!), ac yna yn ôl i’r dref. Diwrnod llawn o gerdded go galed! Cofiwch pen-dorch, rhag ofn!
Tua 35 km/22 milltir o gerdded, gydag esgyniad o dros 1737 m / 5,700 troedfedd.
Peint yn y Cwîns i ddarfod, os cyrhaeddwn cyn stop tap!
Gradd 5
Erwyn Jones 07717 287915 [email protected]
01/09/2026
Cyfle gwych!! Archebwch eich lle mawr
Sadwrn 29 Awst
Bwlch Mawr a'r Copaon Eraill. ******cywiriad
9.30 10.00
Maes parcio yn ymyl hen westy Sant Beuno, Clynnog - SH 415 497.
Taith sy’n ymweld â chopaon Bwlch Mawr, Pen y Gaer (opsiynol), Gyrn Ddu a Gyrn Goch.
Tua 15 km / 9 milltir ac esgyniad o tua 650 m / 2,150 troedfedd.
Gradd 3
Keith Roberts 07789 911437 [email protected]
Sadwrn 29 Awst
Graig Fawr a'r Chopaon Eraill.
9.30 10.00
Maes parcio yn ymyl hen westy Sant Beuno, Clynnog - SH 415 497.
Taith sy’n ymweld â chopaon Bwlch Mawr, Pen y Gaer (opsiynol), Gyrn Ddu a Gyrn Goch.
Tua 15 km / 9 milltir ac esgyniad o tua 650 m / 2,150 troedfedd.
Gradd 3
Keith Roberts 07789 911437 [email protected]
24/08/2026
Pen Llithrig y Wrach a Pen yr Helgi Ddu 22 Awst
http://www.clwbmynyddacymru.com/Teithiau/2026/22-08-26/22-08-26.html
Click here to claim your Sponsored Listing.
Location
Category
Contact the business
Telephone
Website
Address
37 Stryd Margaret, Gwynedd, LL55 1NB
Caernarfon
LL551NB