Hamdden Sir Benfro / Pembrokeshire Leisure

Hamdden Sir Benfro / Pembrokeshire Leisure

Share

Pembrokeshire Leisure - Helping people to be more active, more often.

30/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Oriau Agor Gwyliau Banc Hamdden Sir Benfro!

📆 Dydd Llun 31 Awst - 08:00yb - 1:00yp

Am fanylion penodol i safle ac argaeledd cyfleusterau, edrychwch ar y ddolen yn y sylwadau 👇

-

May Bank Holiday Opening Hours for Pembrokeshire Leisure!

📆 Monday 31st August - 08:00am - 1:00pm

For site-specific details and facility availability, please check the link in the comments 👇

Photos from Hamdden Sir Benfro / Pembrokeshire Leisure's post 29/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Mae ein harfordir ysblennydd yn un o'r lleoedd gorau i'w archwilio gyda'ch ffrind pedair coes, ond gall clogwyni fod yn anrhagweladwy ac yn beryglus. Mae cadw cŵn ar dennyn ger ymylon clogwyni yn helpu i amddiffyn anifeiliaid anwes.

Drwy ddilyn canllawiau lleol a chyfyngiadau tymhorol sy’n ymwneud â thraethau, gallwn ni i gyd helpu i sicrhau bod Sir Benfro yn parhau i fod yn gyrchfan ddiogel a phleserus i bawb.

Dysgwch fwy am sut rydym yn cefnogi ac yn rheoli traethau Sir Benfro drwy'r ddolen yn y sylwadau.

-

Our spectacular coastline is one of the best places to explore with your four-legged friend, but cliffs can be unpredictable and dangerous. Keeping dogs on leads near cliff edges helps protect pets.

By following local guidance and seasonal beach restrictions, we can all help ensure Pembrokeshire remains a safe and enjoyable destination for everyone.

Find out more about how we support and manage Pembrokeshire's beaches via the link in the comments.

28/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Rydym wrth ein bodd yn dathlu cyflawniadau anhygoel Carly, sydd ond yn 6 oed!

Llongyfarchiadau mawr i Carly am nofio pellter rhagorol o 1km yn y dull rhydd mewn dim ond 30 munud yn ddiweddar, gan godi £205 anhygoel i Forever 11.

Cymerodd Carly ran hefyd yn ei gala nofio cyntaf, lle gwnaeth sicrhau’r lle cyntaf yn y ras 200m dull rhydd ac aeth ymlaen i orffen yn gyntaf ym mhob arddull nofio!

Ar ben hynny, mae hi wedi pasio ei gwobr nofio Ton 7 yn ddiweddar, carreg filltir nodedig arall yn ei thaith nofio!

Da iawn, Carly. Rwyt ti’n ysbrydoliaeth, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld beth rwyt ti’n ei gyflawni nesaf!

Mae Carly yn un o'r nifer o nofwyr ifanc sy'n symud ymlaen trwy ein rhaglen Dysgu Nofio. Os hoffech chi helpu eich plentyn i ddatblygu sgil bywyd hanfodol, meithrin hyder yn y dŵr a chael hwyl ar yr un pryd, cliciwch y ddolen yn y sylwadau i gael rhagor o fanylion 👇

-

We're absolutely delighted to celebrate the incredible achievements of Carly, aged just 6 years old!

A huge congratulations to Carly for recently completing an outstanding 1km freestyle endurance swim in just 30 minutes, raising an amazing £205 for Forever 11.

Carly also took part in her first swimming gala, where she secured 1st place in the 200m freestyle and went on to finish 1st in all swimming styles!

To top it all off, she has recently passed her Wave 7 swimming award, another remarkable milestone in her swimming journey!

Well done, Carly. You are an inspiration, and we can't wait to see what you achieve next!

Carly is one of the many young swimmers progressing through our Learn to Swim programme. If you'd like to help your child develop a vital life skill, build confidence in the water and have fun along the way, click the link in the comments to find out more 👇

26/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Efallai eich bod yn teimlo mai’r hydref yw’r amser i fagu nerth newydd—ond gallwch achub y blaen ar ymarferion yn ystod yr haf.

Parhewch â’ch trefn arferol gyda ni ym mis Awst ac erbyn mis Medi byddwch yn teimlo’n gryfach, yn fwy heini, ac yn barod i fynd

🔹 Cadwch yn heini

🔹 Magwch hyder

🔹 Gofalwch am eich llesiant

Peidiwch ag aros am yr ‘amser iawn’ - mae yma’n barod. Barod i symud ymlaen i’r lefel nesaf? Ymunwch â ni a dechreuwch eich taith i flwyddyn 2026 gryfach—gadewch i ni gyflawni’r nodau hynny gyda'n gilydd. Edrychwch ar y ddolen yn y sylwadau 👇

-

It might feel like the reset happens in autumn—but you can get a headstart through the summer.

Keep your routine ticking over with us this August and head into September feeling stronger, fitter, and ready to go

🔹 Stay active

🔹 Build confidence

🔹 Look after your wellbeing

Don’t wait for the ‘right time’—it’s already here. Ready to level up? Join us and start your Stronger 2026 — let’s smash those goals together. Click the link in the comments to get started! 👇

Photos from Hamdden Sir Benfro / Pembrokeshire Leisure's post 25/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran yn ein cystadleuaeth i ddarganfod Ffermwr Mwyaf Heini Sir Benfro yn Sioe Sir Benfro eleni!

Gwelodd y gystadleuaeth ymdrech a phenderfynoldeb gwych gan ffermwyr ifanc ledled y sir, gyda’r enillwyr eleni fel a ganlyn:

🏆 Enillwyr Iau: Clwb Ffermwyr Ifanc Clunderwen
🏆 Enillwyr Hŷn: Clwb Ffermwyr Ifanc Tregetin

Llongyfarchiadau i'r ddau dîm ar fuddugoliaeth haeddiannol. Yn y llun mae tîm iau Clwb Ffermwyr Ifanc Clunderwen a thîm iau Clwb Ffermwyr Ifanc Tregetin yn casglu'r tlws hŷn, ochr yn ochr â Sam o'n tîm ni a Haydn Davies, llywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro.

Diolch arbennig i:

CCF Farm & Country – Gwlad a Fferm am gael defnyddio eu berfâu

Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro a Chlwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro am gefnogi'r gystadleuaeth

Sam Kurtz am arwain y digwyddiad

Roedden ni wrth ein bodd yn gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan ac yn helpu i wneud y gystadleuaeth yn gymaint o lwyddiant.

-

A huge congratulations to everyone who took part in our Pembrokeshire's Fittest Farmer Competition at this year's Pembrokeshire County Show!

The competition saw some fantastic effort and determination from young farmers across the county, with this year's winners being:

🏆 Junior Winners: Clunderwen YFC
🏆 Senior Winners: Keyston YFC

Congratulations to both teams on a well-deserved victory. Pictured are the Clunderwen YFC juniors and Keyston YFC Juniors collecting the senior trophy, alongside Sam from our team and Haydn Davies, Pembrokeshire YFC President.

A special thank you to:

CCF Farm & Country - Gwlad a Fferm - for the use of their wheelbarrows.

Pembrokeshire Agricultural Society and Pembrokeshire YFC - CFfI Sir Benfro for supporting the competition

Sam Kurtz for compering the event

We loved seeing so many people get involved and helping make the competition such a success.

Photos from Hamdden Sir Benfro / Pembrokeshire Leisure's post 24/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Am ddau ddiwrnod gwych a gawson ni yn Sioe Sir Benfro!

O sganiau Boditrax a'n cynnig aelodaeth unigryw, i ymgymryd â Her Sam a chefnogi cystadleuwyr yng nghystadleuaeth Ffermwr Mwyaf Heini Sir Benfro, roedd digonedd yn digwydd yn ein stondin. Roedd ein tîm hefyd wrth law drwy gydol y sioe i ateb cwestiynau a helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'r gweithgaredd cywir iddyn nhw.

Ydych chi'n ystyried dechrau eich taith ffitrwydd gyda ni? Cliciwch ar y ddolen yn y sylwadau i ddechrau arni 👇

-

What a fantastic two days we had at the Pembrokeshire County Show!

From Boditrax scans and our exclusive membership offer, to taking on Challenge Sam and cheering on competitors in the Pembrokeshire's Fittest Farmer competition, there was plenty going on at our stand. Our team were also on hand throughout the show to answer questions and help visitors find the right activity for them.

Thinking about starting your fitness journey with us? Click the link in the comments to get started 👇

24/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Mae’n fwy na chadw plant yn brysur ... mae ein gweithgareddau’n helpu plant i feithrin hyder, aros yn egnïol a gwneud ffrindiau.

Cliciwch ar y ddolen yn y sylwadau 👇

-

It’s more than just keeping them busy… our activities help children build confidence, stay active and make friends.

Click the link in comments 👇

23/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Arafwch a mwynhewch yr haf – sesiynau hamddenol, plant egnïol ac amser i chi ymlacio.

Cliciwch ar y ddolen yn y sylwadau 👇

-

Slow down and enjoy summer – relaxed sessions, active kids and time for you to unwind.

Click the link in comments 👇

Photos from Hamdden Sir Benfro / Pembrokeshire Leisure's post 23/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

Yn mwynhau diwrnod ar y traeth?

Cofiwch rannu'r gofod yn barchus, helpu i gadw traethau'n rhydd o sbwriel, dilyn canllawiau lleol, ac ystyried yr amodau bob amser cyn mynd allan ar y dŵr. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod arfordir Sir Benfro yn parhau i fod yn lle diogel a hardd i bawb ei fwynhau.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen yn y sylwadau.

-

Enjoying a day at the beach?

Remember to share the space respectfully, help keep beaches litter-free, follow local guidance and always consider conditions before heading out on the water. Together, we can help ensure Pembrokeshire's coastline remains a safe and beautiful place for everyone to enjoy.

Find out more through the link in the comments.

22/08/2026

*Gweler neges Saesneg isod / English Message Follows

A fyddwch chi’n mynd i’r môr yn Sir Benfro yr haf hwn?

Os ydych chi mewn trafferth yn y dŵr, gall achub eich bywyd:

• Rhowch eich pen yn ôl nes bod eich clustiau dan wyneb y dŵr
• Ymlaciwch a cheisiwch reoli eich anadlu
• Symudwch eich dwylo i’ch helpu i aros ar wyneb y dŵr
• Peidiwch â phoeni os yw eich coesau’n suddo—rydyn ni i gyd yn arnofio mewn ffyrdd gwahanol

Cofiwch hyn. Ymarferwch hyn. Rhannwch hyn.

-

Heading to the sea in Pembrokeshire this summer?

If you’re in trouble in the water, could save your life:
• Tilt your head back with ears submerged
• Relax and try to control your breathing
• Use your hands to help you stay afloat
• It’s OK if your legs sink, we all float differently

Remember it. Practise it. Share it.

RNLI

Want your business to be the top-listed Gym/sports Facility in Haverfordwest?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Address


Haverfordwest