14/10/2026
🍻🎉 WAW… AM OKTOBERFEST ANHYGOEL! DIOLCH O GALON! 🎉🍻
Rydym wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth anhygoel a gawsom yn ein noson godi a***n Oktoberfest! ❤️
Diolch i’n cymuned wych, rydym wedi llwyddo i godi swm anhygoel o…
✨ £2,155!!✨
Allwn ni ddim diolch digon i bawb am eu cefnogaeth! 🥹❤️
DIOLCH ENFAWR i bawb a helpodd wneud y noson yn gymaint o lwyddiant!
👏 Ein tîm gwych – am yr holl waith caled, amser ac ymdrech aeth i drefnu noson mor arbennig!
🎤 Ceirios Haf a Dafydd Pantrod a'i fand – am y canu a’r adloniant gwych!
🎉 Fun Hire Wales – am ddarparu’r hwyl a’r adloniant!
👕 23ink – am ddarparu ein crysau-T Oktoberfest!
🔨 Emyr Thomas ac Alex Caswell – am adeiladu ein llwyfan gwych! Ac I SERB pharmaceuticals am y pallets!
🍔🍻 Swine & Dine hogroast & catering – am ddarparu’r bwyd a’r bar!
🪑 Neuadd Pontsian Hall a'r King's Arms Llandysul – am fod mor garedig â benthyg y cadeiriau i ni, a Llandysul Paddlers Canoe Centre and Club – am ddarparu'r byrddau!
Ac wrth gwrs, y DIOLCH MWYAF i bob un ohonoch a ddaeth i’r noson, prynu tocynnau a’n cefnogi! ❤️
💛 Mae Calon Tysul yn llawer mwy nag adeilad – mae’n lle sydd wrth galon ein cymuned. Mae’n fan lle gall pobl o bob oed ddod at ei gilydd, creu atgofion, cadw’n heini, dysgu sgiliau newydd, dathlu achlysuron arbennig a theimlo’n rhan o rywbeth.
Bydd pob ceiniog a godwyd yn mynd tuag at adnewyddu ein hystafell weithgareddau newydd, a fydd yn cynnig lle gwych ar gyfer dosbarthiadau, digwyddiadau, partïon a gweithgareddau cymunedol i bawb eu mwynhau!
Rydym yn angerddol dros barhau i ddatblygu a gwella Calon Tysul er budd ein cymuned gyfan. Ond ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb eich cefnogaeth anhygoel chi! ❤️
🍻👕 HEB GAEL CYFLE I YMUNO Â NI? GALLWCH CHI DDAL I'N CEFNOGI!
Os na chawsoch gyfle i ddod i Oktoberfest, mae gennym grysau-T a mygiau cwrw Oktoberfest (b**r steins) ar ôl, sydd ar gael i’w prynu yn y dderbynfa yng Nghalon Tysul!
Mae pob pryniant yn helpu i gefnogi ein prosiect ac yn gwneud gwahaniaeth i’n cymuned. ❤️
Mae’r haelioni, y caredigrwydd a’r ysbryd cymunedol a ddangoswyd wedi bod yn arbennig iawn. Mae’n dangos beth allwn ni ei gyflawni pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd! 🥰
O bawb yma yng Nghalon Tysul – DIOLCH O GALON! ❤️
Rydym mor ffodus i gael cymuned mor wych yn ein cefnogi, ac edrychwn ymlaen at ddangos i chi beth mae eich cefnogaeth yn ein helpu i’w gyflawni!
Dyma edrych ymlaen at lawer mwy o ddigwyddiadau cymunedol gwych! 🍻🎉
--------------------------------------------------------------------
🍻🎉 WOW… WHAT AN OKTOBERFEST! THANK YOU! 🎉🍻
We are absolutely overwhelmed by the incredible support shown at our Oktoberfest fundraiser! ❤️
Thanks to our amazing community, we have raised a fantastic…
✨£2,155!!✨
We honestly cannot thank everyone enough! 🥹❤️
A HUGE thank you to everyone who helped make the event such a success:
👏 Our amazing team – for all the hard work, time and effort that went into organising such a brilliant event!
🎤 Ceirios & Dafydd Pantrod a'i fand – for the fantastic singing and entertainment!
🎉 Fun Hire Wales – for providing the fun and entertainment!
👕 23 Ink – for kindly supplying our Oktoberfest T-shirts!
🔨 Emyr & Alex– for building our brilliant stage! And to SERB pharmaceuticals for the pallets!
🍔🍻 Swine & Dine – for keeping everyone fed and watered with the food and bar!
🪑 Pontsian Village Hall & Kings Arms – for kindly lending us the chairs and Llandysul Paddlers – for kindly providing the tables!
And of course, the BIGGEST thank you to every single person who came along, bought tickets, supported us and helped make the night so special! ❤️
💛 Calon Tysul is so much more than just a building – it's a place at the heart of our community. A place where people of all ages can come together, make memories, stay active, learn new skills, celebrate special occasions and feel part of something.
Every penny raised will go towards the renovation of our new activity room, which we hope will become a fantastic space for classes, functions, parties and community activities for everyone to enjoy.
We are so passionate about continuing to improve Calon Tysul and creating opportunities and spaces that benefit our whole community. But none of this would be possible without the incredible people who support us. ❤️
🍻 DIDN'T GET A CHANCE TO JOIN US? YOU CAN STILL SUPPORT!🍻
If you couldn't make it to Oktoberfest but would still like to contribute to our fundraising, we have a limited number of Oktoberfest T-shirts 👕 and b**r steins 🍺 remaining, available to purchase from Calon Tysul reception!
Every purchase helps us get one step closer to creating a fantastic new space for our community. ❤️
The generosity, kindness and community spirit shown throughout this event have been absolutely fantastic. It really does show what we can achieve when we all come together! 🥰
From everyone at Calon Tysul, DIOLCH O GALON! ❤️
We are so lucky to have such a wonderful community behind us, and we can't wait to show you what your support is helping us achieve!
Here's to many more fantastic community events! 🍻🎉