Cpd Iau Llangefni Fc Juniors

Cpd Iau Llangefni Fc Juniors

Share

Croeso I tudalen Clwb Pel Droed Iau Tref Llangefni
welcome to Llangefni Town Fc Juniors page

17/06/2026
Photos from Cpd Iau Llangefni Fc Juniors 's post 15/06/2026

What a fantastic day for our young team at the Llangefni U6 Football Tournament, where they were crowned Champions League winners and lifted their very first trophy together 🏆
Every single player showed great determination, teamwork, and enthusiasm throughout the tournament, making everyone involved incredibly proud. This achievement is a special milestone for the squad and a reward for all their hard work and development over the past year.
A special thank you to our sponsors for their continued support. Your generosity helps create opportunities and memorable experiences for these young players.

•D. Hughes Welding & Fabrication Ltd
•Melvin Rowlands Funeral Director
•Tafarn Y Rhos

•Gwalia Deli Llangefni
(Champions League Trophy)
•Kikos Dessert Bar Llangefni
(Europa League Trophy)
•Golden Scissors Turkish Barbers Llangefni (Conference League Trophy)

14/06/2026

Adroddiad Dan 9 Celtiaid Twrnament Llangefni Tournament Under 9 Celts Report.

🏆 Pencampwyr y Twrnament - Tournament Champions 🏆

Aeth y grŵp i mewn i'r twrnamaint yn llawn cyffro, gan mai dyma ein twrnamaint cartref. Gyda rhai timau cryf iawn yn cymryd rhan, roedden ni'n gwybod y byddai'n rhaid i ni fod ar ein gorau. Dechreuodd y bechgyn yn ddisglair, gan ymgartrefu a mwynhau'r gemau. Talodd eu gwaith caled, eu penderfyniad a'u gwaith tîm gwych ar ei ganfed wrth iddynt orffen mewn safle cryf yng nghymalau'r grwpiau a sicrhau eu lle haeddiannol yn y rownd derfynol.
Roedd y rownd derfynol yn gêm dynn a chystadleuol iawn, gyda'r ddau dîm yn chwarae pêl-droed ardderchog. Ni allai'r naill dîm na'r llall ddod o hyd i ddatblygiad yn yr amser arferol nac yn yr amser ychwanegol, sy'n golygu y byddai'r enillwyr yn cael eu penderfynu ar giciau o'r smotyn.
Gornest ddramatig, tawelwch mawr gan y ddau dîm. Parhaodd y ciciau o'r smotyn hyd at farwolaeth sydyn, gyda'r gôl-geidwad Caio Sinclair yn gwneud rhai arbediadau rhagorol cyn camu ymlaen i sgorio a helpu'r tîm i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy.
Dechreuodd y dathliadau gyda chodi'r tlws o flaen cefnogwyr y tîm cartref. Chwaraeodd pob chwaraewr ei ran gan ddangos agwedd, ymdrech a gwaith tîm gwych. Dylai pawb a oedd yn rhan fod yn hynod falch o'r cyflawniad hwn.
Diolch yn fawr iawn i'r holl rieni, gwarcheidwaid, am y gefnogaeth barhaus y tymor hwn. Mae eich ymrwymiad yn chwarae rhan bwysig yn eu llwyddiant.
Hefyd diolch arbennig i'r hyfforddwyr, Osian, Daley a Katie y mae eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u hangerdd wedi helpu i ddatblygu'r tîm. Mae'r cynnydd y mae'r bechgyn wedi'i wneud yn unigol ac fel tîm yn glod i'r amser a'r ymdrech a roddant bob wythnos.
Mae'r tlws hwn yn wobr am ymrwymiad, cefnogaeth a chred pawb yn y tîm.

Da iawn Bois 🏆

The group went into the tournament full of excitement, being our home tournament.
With some very strong teams taking part we knew we would have to be at our best.
The boys started bright, settling into and enjoying the games. Their hard work, determination and great team work paid off as they finished in a strong position in the group stages and secured their well deserved place in the final.
The final was a tense and closely contested match, both teams playing excellent football. Neither teams could find a breakthrough in normal time or in extra time, meaning the winners would be decided on penalties.
A dramatic shootout, great composure shown by both teams. Penalties continued to sudden death, goalkeeper Caio Sinclair producing some outstanding saves before stepping up himself to score and help the team seal a memorable victory.
The celebrations began with lifting the trophy in front of the home supporter. Every player played their part showing fantastic attitude, effort and team work. Everyone involved should be incredibly proud of this achievement.
A huge thank you to all the parents, guardians, for the continued support this season. Your commitment plays an important part in their success.
Also a special thanks to the coaches, Osian, Daley and Katie whose hard work, dedication and passion has helped develop the team. The progress the boys have made individually and as a team is a credit to the time and effort they put in every week.
This trophy is a reward for everyone`s commitment, support and belief in the team.

Well done boys 🏆

13/06/2026

Adroddiad Dan 7 Twrnament Llangefni Tournament Under 7 Report

Ein twrnament adra ni heddiw a mi aethom a tri tim a’r tri wedi ein gwneud ni ar clwb yn falch iawn.

Mi wnaeth y tim Oren yn wych yn curo ei grwp. Chwara Caergybi yn y ffeinal y Champions League ond colli o un gol yn anffodus wnaeth y criw mewn gem gystadleuol. Da iawn chi hogia.

Mi wnaeth y tim Melyn orffan yn ail yn ei grŵp gyda ymdrech wych. Yna ymlaen i ffeinal yr Europa a curo Caergybi o un gol mewn gem dda iawn. Gwych ogia.

Y tim Glas wedi cael cychwyn da iawn i'r diwrnod. Gorffan yn 3ydd yn ei grŵp ac yna i ffeinal y Conference. Colli oedd hanas y criw yn erbyn Bae Colwyn ond ymdrech wych. Da iawn chi ogia.

I gael tri tim yn cystadlu mor dda drwy'r bora rydym yn hynod o hapus. Mae ysbryd y criw yma yn arbennig - daliwch ati.

Twrnament oedd wedi ei drefnu yn wych mewn clwb sydd yn arbennig yn amlwg i ni. Diolch o galon i Dilwyn am ei holl waith yn trefnu ac i bawb sydd wedi rhoi ei amser penwythnos dwyth ar un yma am wirfoddoli.

Un Clwb Un Cymuned 💙

Photos from Cpd Iau Llangefni Fc Juniors 's post 12/06/2026

⚽ Twrnament Merched Dan 9 a Dan 11 / U9s & U11s Girls’ Tournament ⚽
🗓️ Dydd Sadwrn / Saturday ~ 6/6/26
📍 Clwb Pêl droed Llangefni

Llongyfarchiadau mawr i’r holl ferched a gymerodd ran yn ein Twrnament.

Dyma oedd twrnament merched cyntaf erioed i gael ei gynnal gan y clwb, gan wneud y diwrnod yn un arbennig iawn i bawb oedd yn rhan ohono.

Pob un o’r hyfforddwyr yn falch iawn o bob chwaraewr. Chwaraeodd y merched yn wych drwy’r dydd, yn gweithio’n galed dros ei gilydd ac yn dangos gwaith tîm arbennig ym mhob gêm.

Diwrnod gwych i’r clwb ac i bêl-droed merched! 💙🩷⚽



A huge congratulations to all the girls who took part in our U9s & U11s Girls’ Tournament.

This was the first-ever girls’ tournament hosted by the club, making it a very special day for everyone involved.

All of the coaches are incredibly proud of every player. The girls played fantastic football throughout the day, worked hard for one another, and showed brilliant teamwork in every game.

A fantastic day for the club and for girls’ football! 💙🩷⚽

12/06/2026

Gŵyl Blynyddol Pêl-Droed Ieuenctid / Annual Juniors Football Festival

Yn dilyn llwyddiant ein gŵyl pêl-droed merched, penwythnos diwethaf, rydym nawr yn edrach ymlaen i gynnal ein gŵyl nesaf ar gyfer y timau cymysg, y penwythos yma!
Rydym yn awyddus i ddiolch yn fawr iawn i'n noddwyr ar gyfer yr ŵyl hefyd, sef:

Following on from our successful girls football festival last weekend, we are now looking forward to hosting our next festival for our mixed teams, this weekend!
We would like to thank our sponsors for the festival as well, which include:

Alliance Leisure
Howden's
Llangefni Trophies
Aran Chippy
Gwesty'r Bull,
Chris Taylor Butchers
Gwalia Bakery
Kico's Dessert Bar
Golden Scissors Turkish Barbers
AVS Car Sales

Cymuned Llangefni - ar ei orau, 👍
Llangefni Community - at it's best, 👍

06/06/2026

Adroddiad Dan 7 Twrnament Boded Tournament Under 7 Report

Mi aethom draw am Boded heddiw efo tri tim a pob un wedi rhoi ei gorau.

Y tim Melyn ar dân yn ennill ei grŵp heb golli gêm. Yna curo y rownd gyn derfynol cyn mynd ymlaen i g**o y ffeinal. Gwych hogia.
Ennillwyr Cwpan Ania Wyn. 💙

Tim Oren wedi cael bora da a gorffen yn 4ydd yn y grŵp. Curo y rownd gyn derfynol ond colli yn anffodus yn y ffeinal y Gwpan Cadarn. Pen fyny hogia. 💙

Tim Glas wedi dechrau yn araf ond mi wnaethon nhw orffan yn gryf iawn. Curo rownd gyn derfynol a churo y ffeinal. Gwych hogia.
Ennillwyr Cwpan Adtower. 💙

Fedran ni ddim gofyn am fwy gan y criw, hyfforddwyr hapus iawn heno.

Diolch i CPD Boded am y croeso a trefn gwych drwy gydol y twrnament.

Hoffwn hefyd ddymuno gwellhad buan i Meredydd a wnaeth frifo heddiw. Pawb yn edrych ymlaen dy gal yn ôl ar y cae yn fuan.

06/06/2026

6/6/26 - Llangefni Town Under 8s - Penrhosgarnedd Tournament

🟠 Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 🟠

Roedd twrnament heddiw yn un anodd gyda phob tîm yn wrthwynebwyr o safon. Unwaith eto, chwaraeodd y tîm yn wych gan orffen ar frig eu grŵp wedi ennill 4 gêm ac 1 gêm gyfartal.💪

Arweiniodd hynny at gêm gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn tîm cryf o Landudno. Mewn gornest gyffrous o’r chwiban gyntaf i’r olaf, dangosodd yr hogia gymeriad a phenderfyniad, gan ddod yn ôl o fod ar ei hôl hi i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol o 3-2. ⚽

Yn y rownd derfynol, wynebodd Llangefni dîm rhagorol Penyffordd Jaguars, oedd heb ildio’r un gôl drwy gydol y twrnament.

Er i’r tîm ildio gôl yn gynnar, cymeron nhw reolaeth o’r gêm, dominyddu am gyfnodau hir a chreu cyfleoedd da. Er gwaetha’r holl ymdrech 1-0 oedd y sgôr terfynol.

Llongyfarchiadau mawr i Penyffordd Jaguars ar eu buddugoliaeth, a diolch i Benrhosgarnedd am drefnu twrnament gwych arall. 👏

Dylai’r hogia deimlo’n falch iawn. Roedd eu hagwedd, eu hymroddiad a safon eu chwarae yn wych, ac maen nhw wedi dangos unwaith eto eu bod yn gallu cystadlu gyda’r gorau. 🏆🟠

🌟

🟠 Champions League Finalists 🟠

Today's tournament was arguably the toughest challenge the boys have faced so far, with every team providing a very high standard of opposition. Another fantastic achievement saw the boys top their group once again, winning 4 games and drawing 1. 💪

That set up a Champions League semi-final against a strong Llandudno side. In a thrilling end-to-end contest, the boys showed incredible character and determination, fighting back from a losing position to secure a deserved 3-2 victory. ⚽

The final saw Llangefni take on an excellent Penyffordd Jaguars team who had not conceded a single goal throughout the tournament.

An early goal saw Llangefni fall 1-0 behind, but from that moment onwards the boys responded brilliantly. They took control of the game, dominated large periods of play, created the better chances and pushed relentlessly for an equaliser. On another day, their performance would have deserved much more, but despite their efforts the score remained 1-0.

Congratulations to Penyffordd Jaguars on their victory, and a big thank you to Penrhosgarnedd for organising another fantastic tournament. 👏

There may not have been a trophy to bring home this time, but the boys should be incredibly proud of themselves. Their attitude, determination and quality throughout the day were outstanding, and they proved once again that they can compete with anyone. 🏆🟠

05/06/2026

Barod am gŵyl pêl-droed y merched 'fory, ⚽️👍

Ready for the girls football festival tomorrow, ⚽️👍

Want your business to be the top-listed Gym/sports Facility in Llangefni?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Website

Address


Llangefni
LL77 7