19/10/2026
Mae ein meddyliau gyda'n ffrindiau yng Nghlwb Rygbi Caernarfon ac RGC, a gyda theulu a ffrindiau Jack yn ystod yr amser anodd hwn.
Our thoughts are with our friends at Caernarfon Rugby Club and RGC, and with Jack’s family and all who knew him at this incredibly difficult time.
Gyda thristwch mawr y mae Clwb Rygbi Caernarfon ac RGC yn cyhoeddi marwolaeth un o'n chwaraewyr, Jack Cameron Wynne Davies yn 24 oed yn unig.
Ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed fel athletwr addawol iawn, datblygodd mewn amrywiaeth o dimau a llwyddodd i fod yn rhan o lwybr RGC, cyn symud i lawr i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Addysg Gorfforol a Chwaraeon am dair blynedd. Dychwelodd i CR Gaernarfon ag RGC, gan ailymuno â'r sgwadiau hŷn yn 2023.
Roedd yn rhan allweddol o deulu RGC a CR Caernarfon ac mae ei farwolaeth yn golled ddinistriol i bawb sy'n gysylltiedig â'r ddau glwb.
Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb oedd yn ei adnabod yn ystod yr amser anodd hwn.
It is with great sadness that Clwb Rygbi Caernarfon and RGC announce the death of one of our players, Jack Cameron Wynne Davies aged just 24.
After joining Clwb Rygbi Caernarfon at the age of 12 as a very promising athlete, he developed in a variety of teams and successfully managed to be part of the RGC pathway, before moving down to Cardiff Metropolitan University to study Physical Education and Sport for three years. He returned to Caernarfon and RGC, rejoining the senior squads in 2023.
He was a key part of the RGC and CR Caernarfon family and his death is a devastating loss for everyone associated with both clubs.
Our thoughts and deepest sympathies are with his family, friends, teammates and everyone who knew him during this difficult time.