23/08/2026
Meet one of our FLAIR athletes Alfie.
Alfie plays basketball for Port Talbot Spartans and Vale Vipers in the English National League. He won his conference with his team Vale Vipers and was named MVP for the season as well as recently being selected for the REBA top 100 players in Manchester in August.
Alfie said that using the courts at the LC and Bishopston to practice in the off season has helped keep him ready for the season ahead.
We are so proud to be able to support athletes like Alfie, drop us a message to find out more.
Cwrdd ag un o'n hathletwyr FLAIR, Alfie.
Mae Alfie yn chwarae pêl-fasged i Port Talbot Spartans a Vale Vipers yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr. Enillodd ei gynhadledd gyda'i dîm Vale Vipers a chafodd ei enwi'n Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr y tymor yn ogystal â chael ei ddewis yn ddiweddar ar gyfer 100 chwaraewr gorau REBA ym Manceinion ym mis Awst.
Dywedodd Alfie fod defnyddio'r cyrtiau yn y CH a Llandeilo Ferwallt i ymarfer yn ystod y tymor tawel wedi ei helpu i gadw'n barod ar gyfer y tymor sydd i ddod.
Eisiau gwybod mwy am ein rhaglen FLAIR? Anfonwch neges atom.
23/08/2026
☀️ SCHOOLS OUT. GAME ON! 🏸🏓
Looking for something fun to do with the kids this summer that won't cost a fortune?
This summer, we're making it easy for families to get active together with selected activities for just £1 per person, per activity! 🙌
Challenge each other to:
🏸 Badminton/Pickleball
🏓 Table Tennis
🎈 Soft Play
🧗 Climbing Wall
⚽ 3G
Whether you're discovering a new favourite sport or settling a few family rivalries, it's the perfect way to stay active, have fun and make memories together this summer.
💛 Just £1 per person
👨👩👧👦 Fun for the whole family
📅 Available throughout the summer holidays! at participating Freedom Leisure centres*
Book your activity today and make this summer one to remember.
👉 Visit our website here https://ow.ly/MwTO50ZrWIt or speak to the team at reception to find out more.
*Terms and conditions apply. Selected activities, dates and times vary by centre.
☀️ YSGOL WEDI CAU. AMDANI! 🏸🏓
Chwilio am rywbeth difyr i'w wneud gyda'r plant yr haf hwn sydd ddim yn costio ffortiwn?
Yr haf hwn, rydym yn ei gwneud hi'n hawdd i deuluoedd fod yn actif gyda'i gilydd gyda gweithgareddau dethol am ddim ond £1 y person, y weithgaredd! 🙌
Heriwch eich gilydd i gêm o:
🏸 Badminton / Pêl Picl
🏓 Tenis Bwrdd
🎈 Lle Chwarae
🧗 Wal Ddringo
⚽ Pêl-droed
Boed yn darganfod eich hoff chwaraeon newydd neu'n datrys setlo ambell gystadleuaeth deuluol, mae'n ffordd berffaith i gadw'n actif, cael hwyl a chreu atgofion gyda'ch gilydd yr haf hwn.
💛 Dim ond £1 y person
👨👩👧👦 Hwyl i'r teulu cyfan
📅 Ar gael trwy gydol gwyliau'r haf yn y canolfannau Freedom Leisure sy'n cymryd rhan*
Archebwch eich gweithgaredd heddiw a gwnewch yr haf hwn yn un i'w gofio.
👉 Ewch i'n gwefan https://ow.ly/QbWe50ZrWIl neu siaradwch â'r tîm yn y dderbynfa i gael gwybod mwy.
* Telerau ac amodau'n berthnasol. Gweithgareddau, dyddiadau ac amseroedd penodol yn amrywio fesul canolfan.
22/08/2026
Meet Martyn, one of our FLAIR athletes who competes in Cyclocross and Cross Country Running.
Unfortunately, Martyn was recently admitted to hospital for emergency open heart surgery following a very rare type of heart attack.
Martyn says: "I am 5 weeks post surgery and have currently started on the NHS provided cardiac rehab programme that aims to not only helps me get back to my fitness goals but also provides the needed mental support following such an event. The programme is a about 6 weeks long with the option to take up offerings to continue improvements at local leisure facilities. I intend to fully participate and complete both."
"I am not giving up on my return to a high level of fitness. I have survived a type of heart surgery that is not commonly performed and with odds that were frighteningly stacked against me. It now appears that prognosis from here in is more promising than I had envisaged."
We wish Martyn all the best with his recovery and can't wait until he can join the FLAIR scheme again.
Dyma Martyn, un o’n athletwyr FLAIR sy’n cystadlu ar Cyclo-Cross a Rhedeg Traws Gwlad.
Yn anffodus, cafodd Martyn ei gludo i’r ysbyty’n ddiweddar am lawdriniaeth agored frys ar y galon ar ôl math prin iawn o drawiad ar y galon.
Meddai Martyn: “5 wythnos ers y llawdriniaeth ac rydw i wedi dechrau ar raglen adsefydlu cardio y GIG sydd nid yn unig yn fy helpu i ddychwelyd i’m nodau ffitrwydd, ond hefyd yn darparu'r cymorth meddyliol sydd ei angen ar ôl digwyddiad o’r fath. Mae’r rhaglen oddeutu 6 wythnos o hyd gyda’r opsiwn i barhau gyda'r gwelliannau mewn cyfleusterau hamdden lleol. Rwy’n bwriadu cymryd rhan lawn a chwblhau’r ddau.”
“Dydw i ddim yn rhoi’r gorau i ddychwelyd i lefel uchel o ffitrwydd. Rwyf wedi goroesi math o lawdriniaeth ar y galon nad yw’n cael ei pherfformio'n aml, gyda'r tebygolrwydd o lwyddiant yn ddychrynllyd o anffafriol. Mae'n ymddangos nawr fod y rhagolygon o hyn ymlaen yn fwy gobeithiol nag yr oeddwn i wedi dychmygu.”
Dymunwn y gorau i Martyn gyda’i adferiad ac ni allwn aros nes y gall ymuno â'r cynllun FLAIR eto.
21/08/2026
Freedom Leisure are delighted to announce that we are supporting Age UK’s Act Now, Age Better campaign!
Age UK wants to get all of us thinking, talking and taking actions that are going to help us age in the best way possible and we’re here to help.
Look out for lots of activity over the summer and find out how you can take the first steps towards a healthier later life here: https://ow.ly/qGWU50ZBl47
Mae Freedom Leisure yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cefnogi ymgyrch Age UK, Act Now, Age Well!
Mae Age UK eisiau cael pob un ohonom i feddwl, siarad a chymryd camau gweithredol a fydd yn ein helpu i heneiddio yn y ffordd orau bosibl ac rydym yma i helpu.
Edrychwch allan am lawer o weithgarwch dros yr haf a darganfyddwch sut allwch chi gymryd y camau cyntaf tuag at fywyd hŷn iachach yma: https://ow.ly/qGWU50ZBl47
20/08/2026
Summer Bank Holiday: https://ow.ly/RFw850ZBER7
Gŵyl Banc yr Haf: https://ow.ly/SjXs50ZBERa
17/08/2026
🩸 Blood donation TOMORROW at Gendros Community Centre!
Every donation can help save up to three lives! It only takes about an hour, but for someone in need, that blood could mean a lifetime. 38 appointments still remaining!
Book your appointment here:
https://wbs.wales/PenlanLC
Rhoddfa gwaed YFORY yn Canolfan Gymunedol Gendros!
Gall pob rhodd helpu i achub hyd at dri bywyd! Dim ond tua awr mae'n ei gymryd, ond i rywun mewn angen, gallai'r gwaed hwnnw olygu oes gyfan. 38 apwyntiad yn dal i fod ar gael!
Archebwch eich apwyntiad yma:
https://wbs.wales/PenlanLC
16/08/2026
Meet Flo, one of our FLAIR athletes:
'I am Flo Tovey, and I am sailor in the Women's Olympic class dinghy the ILCA 6. I am currently in the British Youth Sailing Team and I am representing GBR at the u19 World championships in a few weeks time in Denmark this August.
I have just finished racing at the British Nationals and I won the U19 National Title and a few weeks ago I became the Welsh National ILCA 6 champion , this was a big milestone in my sailing. Training at Freedom leisure has been super beneficial to my training and It has been useful to have access to a number of gyms across Swansea. Having a small local gym in Bishopston was great for me during my A level exam period as it allowed me to keep consistent training without the extra commute time.'
We are so proud to be able to support athletes like Flo, drop us a message to find out more
Dewch i gwrdd â Flo, un o'n athletwyr FLAIR:
'Flo Tovey ydw i, ac rwy'n hwyliwr yn y dosbarth dingi Olympaidd Merched yr ILCA 6. Ar hyn o bryd rydw i yn Nhîm Hwylio Ieuenctid Prydain ac rwy'n cynrychioli Prydain Fawr ym mhencampwriaethau'r Byd dan 19 ymhen ychydig wythnosau yn Denmarc ym mis Awst.
Rwyf newydd orffen rasio yn y Pencampwriaethau Prydeinig ac enillais y Teitl Cenedlaethol Dan 19 ac ychydig wythnosau yn ôl fe ddes yn bencampwr ILCA 6 Cenedlaethol Cymru, roedd hon yn garreg filltir fawr yn fy hwylio. Mae hyfforddi yn Freedom Leisure wedi bod yn fuddiol iawn i'm hyfforddiant ac mae wedi bod yn ddefnyddiol cael mynediad i nifer o gampfeydd ledled Abertawe. Roedd cael campfa leol fach yn Llandeilo Ferwallt yn wych i mi yn ystod cyfnod fy arholiadau Safon Uwch gan ei fod yn caniatáu i mi gadw hyfforddiant cyson heb yr amser cymudo ychwanegol.'
Rydym mor falch o allu cefnogi athletwyr fel Flo, anfonwch neges atom i ddarganfod mwy