24/09/2026
Derbyn i Ysgolion Uwchradd
Hoffem eich hysbysu bod y cyfnod i wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer mis Medi 2027 bellach wedi cychwyn.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau amserol yw 31 Hydref 2026.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau – 31 Hydref 2026.
Fe’ch argymhellir yn gryf i restru mwy nag un dewis wrth wneud eich cais. Ni fydd rhoi enw un ysgol, neu restru enw ysgol fwy nag unwaith, yn rhoi gwell siawns i chi o gael lle yn yr ysgol honno. Fodd bynnag, os ydych ond yn rhoi enw un ysgol ac nad yw eich cais am le yn yr ysgol honno yn llwyddiannus, bydd unrhyw ddewisiadau newydd a ychwanegwch ar ôl y dyddiad cau yn cael eu trin fel ceisiadau ‘hwyr’.
Nosweithiau agored
Bydd ein hysgolion uwchradd ni’n cynnal eu nosweithiau agored yn yr wythnosau nesaf. Os ydych chi’n ystyried dewisiadau, gallan nhw fod yn gyfle gwych i rieni/gwarcheidwaid a phlant ymweld ag ysgolion i gael syniad o ba fath o le ydyn nhw. Mae dyddiadau nosweithiau agored yr holl ysgolion ar gael ar ein gwefan.
Gwneud cais am ysgol y tu allan i Wrecsam
Os ydych chi'n byw yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych neu Swydd Amwythig, rhaid i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol cartref, hyd yn oed os yw'r ysgol rydych chi'n gwneud cais amdani dros y ffin. Mae gan yr awdurdodau lleol hyn drefniant derbyn cydgysylltiedig.
Mae hyn yn golygu, pan fydd preswylydd Wrecsam yn cyflwyno cais i dîm derbyn Wrecsam, os yw'r cais yn nodi dewis ysgol yn un o'r tair sir hyn (er enghraifft, Ysgol Castell Alun yn Sir y Fflint, Ysgol Dinas Brân yn Sir Ddinbych, St. Martins yn Swydd Amwythig) byddwn yn anfon eich cais at yr awdurdod derbyn cywir. Nid oes angen i chi wneud ceisiadau ar wahân i'r awdurdodau lleol hyn.
Dylech wneud cais i'r awdurdod lle rydych chi'n byw yn unig, ac ychwanegu pob dewis ysgol at yr un cais hwn.
Sut i wneud cais
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais a ‘chwestiynau cyffredin’ ar ein gwefan - Derbyn i Ysgolion Uwchradd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
A range of schools in Wrexham provide a secondary education, including English medium, Welsh medium, voluntary aided and foundation schools.