Datblygu Hamdden Ffit Conwy

Datblygu Hamdden Ffit Conwy

Share

English: https://www.facebook.com/FfitLeisureDeve

Mae tîm datblygu hamdden Conwy wedi'i leoli yn Adeilad Coed Pella, Bae Colwyn, ac mae’n gyfrifol am ddarparu cyfleoedd chwaraeon a hamdden cynhwysol i bob oed a gallu.

04/09/2026

Pythefnos yn unig sydd ar ôl i gyflwyno enwebiad ar gyfer ein Gwobrau Chwaraeon Conwy.
Dathlu’r goreuon ym myd chwaraeon yn Sir Conwy.
Ewch ati i enwebu yma: https://bit.ly/41rYJaI

02/09/2026

Un aelodaeth. Cyfleoedd di-rif.

Pam dewis un dosbarth pan allwch chi fwynhau pob un?

Gydag Aelodaeth Wledig Ffit Conwy, cewch fynediad heb gyfyngiad at: HIIT Ioga Cyflyru'r Corff E-feicio Dosbarthiadau Ar-lein Unrhyw Bryd Gartref

P’un a ydych yn ymarfer yn rheolaidd neu’n cychwyn o’r newydd, mae rhywbeth ar gael i bawb.

Ymunwch â’n cymuned ffitrwydd heddiw!
https://bit.ly/4wMCLw2

01/09/2026

Rydym yn recriwtio: Uwch Weithiwr Chwarae!

Ydych chi’n frwdfrydig am chwarae a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc?

Rydym yn chwilio am Uwch Weithiwr Chwarae brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’n tîm, a helpu i arwain cyfleoedd chwarae o safon uchel, sy’n cael eu llywio gan y plant.

Os ydych chi’n greadigol, llawn egni ac yn frwdfrydig am greu lleoedd i blant chwarae, archwilio a chael hwyl, hoffem glywed gennych!

Gwnewch gais rŵan i fod yn rhan o’n tîm!

Cliciwch ar y ddolen isod i wneud cais.

https://bit.ly/3gfHS3a

01/09/2026

Dim Bocsio yn Peulwys y dydd Mercher hwn (na’r wythnos nesaf). Byddwn yn ôl ar 16 Medi.

Welwn ni chi yno!

01/09/2026

Mae ein hyfforddiant gwaith chwarae’n dechrau ym mis Medi bob blwyddyn ac mae’r sesiynau bob mis yn canolbwyntio ar wahanol faes o waith chwarae.
Dilynwch y ddolen isod i weld y cynllun hyfforddiant, gan gynnwys dyddiadau, lleoliadau a manylion yr holl weithdai. https://bit.ly/4atr8BG
I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch: [email protected]

01/09/2026

Ddydd Sul, ymunon ni ag ar gyfer eu digwyddiad cymdeithasol pysgota ar Draeth Bae Cinmel. Roedd hi’n hyfryd cwrdd â chymaint o bobl a ddaeth draw i bysgota, sgwrsio, neu’n syml i wylio beth oedd yn digwydd. Cawsom hefyd weld amrywiaeth anhygoel o bysgod, gan gynnwys siarcod, sydd i’w gweld yn ein dyfroedd lleol!

Mae Reel Minds yn cynnal sesiynau pysgota AM DDIM drwy gydol mis Medi ar Draeth Bae Cinmel. Os hoffech roi cynnig ar bysgota, ewch draw i’w tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am archebu, neu anfonwch DM atom a byddwn yn anfon y ddolen atoch.



01/09/2026

Ddydd Sadwrn cafwyd sesiwn sglefrfyrddio wych arall yn Y Morfa, Bae Cinmel, dan arweiniad Tom o

Roedd y gefnogaeth yn anhygoel, gyda llawer o bobl ifanc a’u rhieni yn ymuno, ac roedd bron pawb wedi cael tro ar y bwrdd!

Diolch yn fawr i Tom am ddod â chymaint o hwyl ac egni i’r sesiwn. Mae’n amlwg bod gennym ni rai sglefrwyr ifanc hynod dalentog yn ein plith! 🤩 🛹



# ffitconwy

30/08/2026

Ydych chi’n adnabod hyfforddwr yng Nghonwy sy’n mynd ymhellach na’r disgwyl? Enwebwch nhw heddiw ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Conwy 2026.
Peidiwch â methu’r cyfle - mae’r enwebiadau’n cau ar 18 Medi.
👉 https://bit.ly/4wYzElH

29/08/2026

Ydych chi wedi rhoi cynnig ar E-feicio? ‍

Un o’r gweithgareddau gwych sy’n gynwysedig yn ein Haelodaeth Wledig yw E-feicio!

P’un a ydych am wella eich ffitrwydd, mwynhau prydferthwch yr ardal leol, neu ymarfer corff yn yr awyr agored, mae ein sesiynau’n ffordd wych o symud.

Cewch fynediad at amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd hefyd!

Ymarfer corff yn yr awyr agored Cwrdd â phobl newydd Gwella eich lles

Ymunwch heddiw i ddarganfod beth sydd gan eich Aelodaeth Wledig i’w chynnig.

https://bit.ly/4wMCLw2

Photos from Reel Minds CIC's post 28/08/2026

Dewch draw i ddweud helo wrth Reel Minds CIC i lawr ar Draeth Bae Cinmel y Sul hwn!
Gweler y neges isod am yr holl fanylion!
Fe welwn ni chi yno! 🎣🐟

Want your business to be the top-listed Gym/sports Facility in Conwy?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Telephone

Address


Coed Pella, Ffordd Conway, Bae Colwyn
Conwy
LL297AY