04/03/2025
Wythnos wedi bod ers i cyfres ddod i ben a dwi mor falch o’r 5 sydd dal wrthi yn defnyddio’r tŵls gafo nhw dros y cyfnod yn y tŷ Y NHW roth y gwaith caled i mewn ac wedi neud y mwyaf o’r cynllun.
I son mwy am y cynllun ffitrwydd roedd y fformat yn cynnwys 3 fidio yr wythnos - gallwch ddilyn ar wefan Ty Ffit , gweithgaredd cardio o’i dewis (oedd angen tracio cynydd) ac arferion dyddiol i wella ansawdd cwsg, symud mwy etc.
Neshi enjoio bod yn rhan o’r rhaglen yn arw ac yn teimlo yn lwcus i weithio hefo arbenigwyr eraill a Sioned. Roedd hefyd yn bleser cael gwario amser hefo’r mentoriaid ffantastic ⭐️
13/02/2025
Wedi cael babi a fansi ymarfer ar lan y môr?
Dilynnwch y linc yma am fwy o wybodaeth am Bygi Heini Braf.
Cwrs newydd yn cychwyn wythnos nesa - wedi ei arwain gan ⭐️
https://www.braf.cymru/stiwdio
05/02/2025
⭐️ 3 ffordd syml i symud mwy mewn diwrnod ⭐️
1. Rwtin 5 munud ymestyn, symudedd neu cydbwsedd. Mae ‘na rwtins ar gael ewch i reels (cyfrif fi neu ).
2. Mynd allan i gerdded am 10 munud amser cinio
3. Dillad ar lein yn lle peiriant sychu (os dr tywydd ddim yn s*it 🥴)
Hollol syml ond arferion bach fel hyn sy’n neud y gwahaniaeth yn y tymor hir 🙌🏼
30/01/2025
Neshi fwynhau gwrando ar sgyrsiau am y sialens o gadw cydbwysedd magu plant a’r pethu da ni angen / gorfod / eisiau gneud heb blant ar wythnos yma a son pa mor wir ydi y ‘mum guilt’.
Does ‘na neb yn rhybuddio chi mor anodd ydi heriau fel hyn a dwi’n teimlo fel bod cymdeithas heddiw yn rhoi llawer gormod o bwysau ar famau i fod yn ‘bob dim’ - cael gyrfa dda, magu plant yn berffaith, edrych yn dda, ty taclus etc. Mae o yn amhosib! Ond oeddo mor dda clywed y sgwrs am sut oedd bod yn fwy actif yn cael effaith bosatif ar sut mae Gwawr fel mam, bod ganddi fwy o egni a bod hyn dylanwadu y plant i ymuno hefyd 🥰.
High 5 hiwj i bawb sy’n jyglo y patha ma i gyd ma cymdeithas yn disgwyl geno ni, y rhai heb blant hefyd. Does na neb yn mor berffaith a ma ‘socials’ ni yn ddangos a does na ddim angen bod chwaith 😊
20/01/2025
‘Non-negiotables’ dyddiol
Os dwi ddim yn neud hein dwi’n teimlo chydig yn 🥴🤪😖
🫖 Panad yn bore. Must! tê neu dŵr a lemon
🥣 Brecwast cyn gadael ty - dwi ddim yn gallu treinio yn dda / mynd i gwaith heb gael dim i fwyta
🌲 Cerdded / mynd am dro / awyr iach - ddim yn goro bod yn un hir
☕️ Coffi - Dim peth cynta a dim ar ôl tua 12:00 achos mae on gallu effeithio cwsg o hyna ymlaen, ond dwi yn GORFOD cael un bob diwrnod a dwin 100% coffi snob felly mae o bod yn un da ( fel arfer)
🏋🏼♀️ Treinio (cymysgedd o godi pwysau, dipyn o cardio a ymestyn). 3 gwaith yr wythnos. Hwn yn gallu mynd lawr i 2 weithiau. Ond dwi’n ok hefo hyna.
📱Nai ddim sbio ar yn ffôn ar ôl 9 😴
Be ydi ‘non negotables’ chi?
15/01/2025
Neud y mwya o bob eiliad hefo’r bambino bach dewr yma. Weitha dani’n cael lot o hwyl a weithia dani’n dipyn o sdres (os geno chi blentyn 3 oed pen-galad da chi’n gwbod be dwi’n feddwl). Dwi a fo fel arfer hapusa os da ni tu-allan ⛰️🌳🌊 cyn dod mewn a swatio wrth y tân 🥰
11/01/2025
Dwi di clywed bod 40au yn well na 30au so dwi’n edrych mlaen!
Dwi’n coelio bod teimo’n yn gryf yn teimlo yn well na bod yn dena (dwi ddim yn son am tena naturiol yn fama - dwin son am drio bod yn rili tena pan dio ddim yn siap corff naturiol)
Dwi’n coelio bod bwyta i gael egni a teimlo yn dda yn well na trio torri bwyd allan a cyfri calories.
Dwi’n coelio bod goals fel anelu i neud pull up neu PB deadlift yn well, mwy hwyl a chynaliadwy na gôl o ffitio mewn i ffrog seis penodol.
Dwi’n poeni llai am be mae pobl yn feddwl a gwbod be sy ora i fi.
Petha i gyd dwi di ddysgu yn yn 30au a edrych mlaen i fynd a hein ymlaen a dysgu hyd yn oed mwy yn yn 40au 🥰💪🏽
07/01/2025
Dywediadau ffitrwydd - Mis Ionawr, mae nhw yn bob man 👀
Dyma rhai o’r faves…â’r rhai dwi’n gasau clywed
😍 ‘CONSISTENCY BEATS INTENSITY’
😍 ‘TI’N GRYFACH NA TIN FEDDWL’
😍 MAE’R CORFF YN CYFLAWNI BE MAE’R MEDDWL YN GOELIO’
Y gwaethau - unrhywbeth i neud hefo diets, quick fixes, cyfyngu dy hun, llwyth o boen
😖 ‘GO HARD OR GO HOME’
😖 ‘GET BIKINI READY!’
😖’PAIN IS WEAKNESS LEAVING THE BODY’
Ma unrhwy fath o symud yn well na dim ❤️☺️
12/12/2024
Y ddau eisiau ei cario erbyn y diwedd a heb gyrraedd y caffi i gael panad / siocled poeth mewn amser ond fel arall oedd on gret o ddiwrnod - llwybr arfordir Llanystumdwy i Cricieth a bus nol at y car i Llanystumdwy, diolch am awgrymu, change neis o Lon Gul a Dinas D.
Edrych mlaen am mwy o hyn dros Dolig, ac i drio awgrymiadau dwi di cael geno chi 🙌🏼🥰
09/12/2024
Oedd troi yn 40 yn bril 🤩
Diolch am y cardiau, presanta, negeseoun lyfli jybli 💕
yn le perffaith i gael parti ⭐️
15/11/2024
🐥 bach yn 3 oed heddiw. Penblwydd Hapus Nico Wyn, ti werth y byd ❤️
14/11/2024
Dros pum mlynedd ers cael plentyn cyntaf ac rwan dwi’n dechra dod nol i rwtîn ‘treinio’.
Mae’r blynyddoedd yn mynd mor gyflym - dwi’n coelio yn gryf mewn gwatchad ar ol y corff (+ mae ymarfer mor dda i fi yn feddyliol) - ond yn sbio yn ol doedd ‘na ddim angen stressio bod fi ddim yn ffitio mewn in nillad / hitio gôls ffitrwydd, angen bod yn glen hefo’ch hynan mewn amser sydd mor hectic (a hefyd mor werthfawr) ❤️