01/10/2026
🌟Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn – 1 Hydref 🌟
Nid yw oedran yn rhwystr i fod yn heini, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, neu wneud ffrindiau newydd.
Drwy raglen Oedolion Hŷn Heini Cyngor Abertawe a Chynllun Hamdden Actif 60+ Oed, gall oedolion hŷn fwynhau ystod eang o weithgareddau gan gynnwys cerdded nordig, cylchedu llai heriol, nofio, dawnsio, dringo, padlfyrddio a llawer mwy. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i wella cryfder, cydbwysedd, hyder a lles wrth greu cyfleoedd gwerthfawr i gysylltu ag eraill a chadw’n heini yn ein cymunedau.
P’un a ydych am wella’ch ffitrwydd, am gwrdd â phobl newydd neu’n mwynhau cadw’n heini, mae rhywbeth at ddant pawb.
💙Cadw’n heini. Cadw mewn Cysylltiad. Aros yn annibynnol.
📞 01792 635452
📧[email protected]
🌐 www.abertawe.gov.uk/chwaraeonaciechyd